BRIE- #

 

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-777

Teitl y ddeiseb: Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru

Testun y ddeiseb:  

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio gweithrediad presennol y Rheoliadau Systemau Chwistrellu Tân o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2016 (Cymru).

Dylai’r adolygiad i ddiwygio ystyried yn benodol sut y mae’r rheoliad wedi cael ei integreiddio i’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol mewn perthynas â phrosiectau sy’n dod o fewn y categori "Newid Defnydd Hanfodol” (Rheoliad 5) a’r gofyniad i ôl-ffitio systemau llethu tân awtomatig. Dylai’r adolygiad yn bennaf ystyried yr hyn a gyflawnir mewn gwirionedd pan fydd dau eiddo yn cael eu cyfuno i un eiddo, o gofio: -

1) Pan fydd dau annedd yn dod yn un, dylai’r broses adeiladu ei hun gael ei hystyried yn ddim gwahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei ystyried fel Estyniad i annedd. O dan y Rheoliadau Adeiladu presennol nid oes angen i system llethu tân awtomatig gael ei gosod mewn Estyniadau waeth beth fo’u maint.

2) Y gofyniad yw i osod system llethu tân awtomatig yn yr adeilad yn ei gyfanrwydd ac nid dim ond yn y rhan sydd wedi’i ddatblygu.

3) Nid yw’r Rheoliad yn ystyried unrhyw gamau lleihau tân sylweddol sydd eisoes yn digwydd o ganlyniad i’r prosiect adeiladu, fel lleihau nifer y ceginau o fewn eiddo (mae 70% - 80% o’r holl danau domestig yn dechrau mewn ceginau yn ôl Firesafe.org.uk).

4) Mae’r costau cyfredol ar gyfer systemau llethu tân awtomatig wedi’u "hôl-osod" yn golygu nad yw’r gofyniad yn gost effeithiol, sef ffaith a ategir gan bob astudiaeth a gomisiynwyd ac astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd hyd yma. (Mae costau a dyfynbrisiau a gasglwyd yn amrywio o £5,000 i dros £10,000, yn dibynnu ar argaeledd llif o ddŵr, nifer y penaethiaid sy’n gweithredu, a gofynion o ran tanc a seilwaith).

 

5) Mae’r Ddeddfwriaeth wedi cael ei rhoi ar waith heb seilwaith digonol. O fewn Cymru gyfan dim ond 7 o gwmnïau BAFSA cofrestredig sy’n bodoli. Mae hyn yn debygol iawn o arwain at brisio heb fod yn gystadleuol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Dylai’r adolygiad hefyd edrych ar y goblygiadau ehangach o ran sut y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei rhoi ar waith, nawr ei bod wedi bod ar waith ers peth amser. Dylai ystyriaethau gynnwys:

1) Cynnal y systemau - Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cynnwys dim ynghylch unrhyw ofynion cynnal a chadw parhaus ar ôl i system gael ei gosod. Dull Cynulliad Cymru yn hyn o beth yw darparu "Taflen" i’r cyhoedd sydd i fod i ddarparu gwybodaeth i berchennog cartref ynglŷn â gofynion cynnal a chadw’r system; fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r hyn a fyddai’n cael ei gyflawni pe bai’n rhan o’r ddeddfwriaeth i sicrhau y caiff y system ei chynnal a’i chadw yn barhaus. Fodd bynnag, yr effaith yn sgil hyn yw rhoi rhagor o faich ar berchnogion tai o ran costau bod yn berchen ar gartref a’i redeg, gyda chostau cynnal a chadw parhaus a amcangyfrifir dros £2000 y flwyddyn.

2) Risg Legionella (oherwydd diffyg cynnal a chadw) - Credir yn eang nad yw systemau chwistrellu yn gyffredinol yn ffynhonnell Legionella (FPA RC63), fodd bynnag, gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar Systemau Chwistrellu Domestig fel gofyniad ar gyfer pob adeilad newydd a chartref a gaiff ei drawsnewid, credwn fod angen mwy o waith ymchwil, yn enwedig gan fod y rheoliadau yn hepgor cynnwys cynnal a chadw’r system. Rydym ni o’r farn, wrth i systemau heneiddio, ac na chânt eu cynnal oherwydd costau, y bydd y risg o Legionella yn rhoi’r cyhoedd mewn mwy o berygl o haint yn gyffredinol.

3) Costau - Oherwydd lled elw tynn ar gyfer Adeiladwyr Tai a Datblygwyr, mae rhai bellach wedi rhoi’r gorau i adeiladu tai mewn rhai ardaloedd yng Nghymru (cwmni Persimmon a chwmni Redrow) neu byddant yn rhoi’r gorau iddi’n fuan, o ganlyniad uniongyrchol i’r Ddeddfwriaeth hon.

4)  Dadansoddiad Budd Cost - Yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol amcangyfrifwyd y byddai’r system yn costio £1500 - £2500 i bob cartref. Mewn gwirionedd mae’r gost rhwng £5,000 a £10,000 am bob gosodiad.  Yn aml mae angen offer ychwanegol oherwydd na all Dŵr Cymru warantu isafswm llif a phwysaur dŵr.

 

Cefndir

Mae’r Rheoliadau Adeiladu Etc. (Diwygiad Rhif 3) a Rheoliadau Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2013 yn mynnu bod systemau atal tân awtomatig (h.y. taenellwyr tân) yn cael eu gosod mewn eiddo preswyl newydd ac eiddo a adnewyddir yng Nghymru. Cyflwynwyd y gofyniad hwn, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol, mewn dau gam ar 30 Ebrill 2014 ac 1 Ionawr 2016. Nid oes angen gosod taenellwyr yn y tai presennol sy’n cael eu hadnewyddu, oni bai bod adnewyddu o’r fath yn cynnwys creu un neu fwy o breswylfeydd newydd.

Cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, dim ond mewn adeiladau preswyl uchel a oedd yn uwch na 30 metr yr oedd yn ofynnol i gael taenellwyr. Bu’r gofyniad hwn ar waith ers 2007 ac mae’n gymwys yng Nghymru a Lloegr.

Mae canllawiau ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gofyniad am daenellwyr tân i’w gweld yn y Rheoliadau Adeiladu Dogfen Gymeradwy Rhan B (Diogelwch Tân).

 

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Pwyllgor ar 5 Medi 2017. Mae ei llythyr yn ymdrin â’r materion a godwyd yn y ddeiseb:

Newid defnydd sylweddol                                                                 

Mae’r ddeiseb yn cwestiynu’r gofyniad i osod taenellwyr ble y cyfunir dwy breswylfa bresennol, am y rhesymau canlynol:

§    Dylid ystyried nad yw’r broses yn wahanol i ychwanegu estyniad i breswylfa bresennol (nid oes angen gosod taenellwyr yn y sefyllfa hon);

§    Y gofyniad yw gosod taenellwyr i’r adeilad cyfan, nid dim ond y rhan a ddatblygir;

§    Nid yw’r gofyniad yn ystyried camau lleihau tān eraill a gyflwynwyd o ganlyniad i’r gwaith adeiladu, er enghraifft lleihau nifer y ceginau;

§    Mae costau chwistrellu ‘ail-ffitio’ yn waharddol, gan eu bod yn amrywio o £5,000 i £10,000; a

§    Dim ond saith o fusnesau cofrestredig Cymdeithas Taenellwyr Tân Awtomatig Prydain (BAFSA) sydd yng Nghymru, sy’n ‘debygol iawn’ o arwain at brisio anghystadleuol.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau y byddai uno dwy breswylfa bresennol yn golygu newid defnydd sylweddol, ac felly y byddai’n rhaid gosod taenellwyr. Mae’r llythyr hefyd yn disgrifio’r broses ddeddfwriaethol a arweiniodd at y gofyniad.

Mae Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, sy’n nodi’r gofynion ar gyfer chwistrellu, yn datgan:

(2) ... mae’r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu yng Nghymru sy’n cynnwys -

(a) adeiladu adeilad i’w ddefnyddio fel preswylfa, neu nifer o breswylfeydd,

(b) trosi adeilad, neu ran o adeilad, i’w ddefnyddio fel preswylfa, neu nifer o breswylfeydd,

(c) isrannu un neu fwy o breswylfeydd presennol er mwyn creu un neu fwy o breswylfeydd newydd, neu

 (ch)cyfuno preswylfeydd presennol er mwyn creu preswylfa newydd neu breswylfeydd newydd. [Pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]

O ran y costau sy’n gysylltiedig â gosod taenellwyr ble y mae dwy breswylfa bresennol wedi’u cyfuno, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

The costs of installing sprinklers included within the regulatory impact assessment represented a broad average of expected costs which have been largely supported by the pilot study final report. We do however accept costs of installing fire suppression systems in small scale developments and those involving refurbishment are likely to be higher, including where two or more dwellings are being altered into one (and conversely).

Mae’r adroddiad ar yr astudiaeth beilot ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Adroddiad Terfynol Astudiaeth Beilot System Chwistrellu Llywodraeth Cymru.

Cost gyffredinol gosod systemau chwistrellu

Dywed y ddeiseb bod rhai adeiladwyr tai (mae’n enwi Persimmon a Redrow), oherwydd lled elw tynn, wedi rhoi’r gorau i adeiladu mewn rhai rhannau o Gymru o ganlyniad uniongyrchol i’r gofyniad i chwistrellu.

Mae hefyd yn nodi bod gwir gostau gosod taenellwyr yn sylweddol uwch nag yr amcangyfrifwyd yn wreiddiol (£5,000 i £10,000 yn hytrach na £1,500 i £2,500 am bob gosodiad), ac yn nodi bod angen offer ychwanegol yn aml, gan nad yw Dŵr Cymru yn gwarantu isafswm llif a phwysau dŵr.

Roedd llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

 … it is difficult to assess costs as each property will differ in relation to the building design, sprinkler design, availability of a suitable water supply and location of contractor. In relation to the water supply where there is sufficient flow and pressure then a main fed system is the most cost effective. Where a pump is required to enhance the mains flow and pressure then the costs will increase.

Cynnal systemau chwistrellu

Mae’r ddeiseb yn tynnu sylw at y ffaith nad oes angen gwaith cynnal a chadw parhaus ar ôl gosod y taenellwyr, a allai arwain at fod y gofyniad am daenellwyr yn brin o’r safon a fyddai i’w chyrraedd fel arall. Dywed hefyd mai effaith gofyniad o’r fath, fodd bynnag, fyddai rhoi baich ychwanegol  o £2,000 y flwyddyn ar berchnogion tai yn sgîl costau cynnal a chadw.

Roedd llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

In relation to the maintenance of a fire suppression system, this would be the responsibility of the homeowner or person responsible for the property, there are no continuing control requirements in relation to the building regulations following certification of the completion of the building work..

Legionella

Mae’r ddeiseb yn nodi y bydd mwy o berygl o haint Legionella wrth i systemau chwistrellu heneiddio, ac os nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw. Mae’n galw am ragor o ymchwilio i’r maes hwn, o gofio mai Cymru yw’r wlad gyntaf i ddeddfu i’w gwneud yn ofynnol i osod taenellwyr mewn eiddo preswyl newydd ac eiddo a adnewyddir.

Roedd llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi:

In relation to legionella, this spreads via infected aerosolised water. To be aerosolised, water droplets need to [be] a certain size, far smaller than the droplets of water that a[re] sprayed from fire sprinkler systems. In addition, aerosolised water would only be likely if the sprinklers were activated, in which case exposure is unlikely as occupants would be leaving the area due to a fire situation. While there is a risk of legionella, that risk is low or negligible when considering fire sprinkler systems..

Clefyd y Llengfilwyr

Mae gwefan Dewis y GIG yn datgan:

Bacteria Legionella sy’n heintio’r ysgyfaint sy’n achosi Clefyd y Llengfilwyr. Caiff ei ddal      fel arfer drwy anadlu diferion bach iawn o ddŵr, o ffynhonnell ddŵr wedi’i llygru. Nid yw’r cyflwr yn heintus ac ni ellir ei ddal gan rywun arall.

Fel rheol, canfyddir bacteria Legionella mewn ffynonellau dŵr, fel pyllau, afonydd a llynnoedd (yn aml mewn niferoedd mor fach fel nad ydynt yn niweidiol). Fodd bynnag, gall y bacteria luosi’n gyflym os byddant yn cyrraedd systemau cyflenwi dŵr artiffisial, fel systemau aerdymheru.

Mae adeiladau mawr, fel gwestyau, ysbytai, amgueddfeydd a blociau swyddfa, yn fwy agored i niwed Legionella oherwydd bod ganddynt systemau cyflenwi dŵr mwy cymhleth, ble gall y bacteria ledaenu’n gyflym.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae trafodaeth yn y Cynulliad ar chwistrellu yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddiogelwch tân mewn tyrau uchel yn dilyn tân tŵr Grenfell yn Llundain ym mis Mehefin, yn hytrach nag ar y materion penodol a godwyd yn y ddeiseb.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru ar hyn o bryd. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid ar 13 Gorffennaf, a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant) ar 27 Medi.

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig sesiwn graffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 20 Gorffennaf.              

Yn ystod y sesiynau hyn, dywedodd Ysgrifenyddion y Cabinet y byddai unrhyw adolygiad o’r Rheoliadau Adeiladu, o fewn cyd-destun ehangach diogelwch tân, yn digwydd unwaith y bydd gwaith y grwpiau arbenigol a sefydlwyd yn dilyn tân Grenfell wedi’i gyflawni.

Mae’r Adolygiad Annibynnol o Reoliadau Adeiladu a Diogelwch Tân, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU, i gyflwyno adroddiad interim yn hydref 2017 ac adroddiad terfynol yn y gwanwyn 2018.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.